Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Pafiliwn

Disodlodd y Pafiliwn Institiwt y Glowyr fel canolfan hamdden y pentref. Agorodd y Pafiliwn ym 1996, mae'n adeilad eang gyda neuadd fawr, ystafell gyfarfod a chegin. Mae hefyd yn darparu caeau chwaraeon dynodedig a chefnfwrdd pêl-fasged. Mae'r caeau chwaraeon a'r cyfleusterau cawod yn cael eu harchebu ymlaen llaw ac mae'n denu nifer o dimau pêl-droed o Adran Iau i Hŷn. Mae'r Pafiliwn yn cael ei archebu gan sefydliadau amrywiol i ddarparu ffitrwydd corfforol ee Dawns, Bale, Tae Kwondo a Zumba. Mae hefyd yn cynnig ystafelloedd cyfarfod ar gyfer Sefydliad y Merched a Chwnsela Profedigaeth Cruse ac mae'n gartref i'r Cyngor Cymuned.