
Mae Fferm Pentre ar hen safle, gyda chofnodion yn dyddio'n ôl i 1530 o leiaf.
Mae Fferm Pentre, neu Fferm Pentremoch fel y'i gelwid hyd at ddiwedd y 19eg Ganrif, ym mhen dwyreiniol Pentref Northop Hall. Mae'r ffermdy a'r adeiladau gwreiddiol wedi'u lleoli yn y fforch rhwng Lôn Wepre a Ffordd y Pentre. Ar ochr arall Lôn Wepre mae'r gadlas a'r tir fferm i'w cael.
Mae gan y tŷ presennol nodweddion sy'n dyddio o ddiwedd yr 17eg Ganrif. Mae tystiolaeth bod y fferm wedi bod yn nwylo'r teulu Morris o ganol yr 16eg Ganrif hyd ddiwedd y 19eg Ganrif, pan fu farw Thomas Morris heb unrhyw etifeddion.
O ganlyniad, prynwyd y fferm, ym 1886, gan Major Freme o Wepre Hall a'i hymgorffori yn Ystâd Wepre. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gwerthwyd Ystâd Wepre a phrynwyd Fferm Pentre ym 1920 gan Mr Charles Roberts, a dalodd £2500 am 64 erw o dir. Mae'r fferm wedi bod yn nwylo'r teulu Roberts hyd heddiw.