
Nid Eglwys yn unig yw'r Eglwys Bresbyteraidd. Mae'n rhagweithiol yn y gymuned leol yn dod â phentrefwyr ynghyd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, cwmnïaeth ac hefyd diwallu anghenion ysbrydol. Mae croeso cynnes iawn i'r Gwasanaethau Dydd Sul a gynhelir am 10.30am. Mae'r aelodau'n darparu gwasanaeth hanfodol i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain, maent wedi sicrhau bod ganddynt hylendid bwyd o'r safon uchaf i weini cinio blasus, maethlon yn rheolaidd, dyddiadau ac amseroedd fel yr hysbysebir. Mae'r Eglwys yn cynnal cyfarfodydd “Cylch Merched” rheolaidd ac yn croesawu siaradwyr gwadd. Mae hefyd yn gartref i Gôr “Joyful Sounds” y pentref, ac mae croeso bob amser i aelodau newydd ar nosweithiau ymarfer. Adeiladwyd yr Eglwys ym 1895 i gymryd lle'r Eglwys a adeiladwyd yn Corc ym 1840. Sefydlodd y Methodistiaid Calfinaidd achos yn y pentref ym 1803.