Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hen Bont Rheilffordd

Roedd llinell Rheilffordd Cei Connah, Wrecsam a'r Wyddgrug (WMCQR) yn rhedeg ar hyd trychfa ac o dan Ffordd y Pentre rhwng Rosebank a Fferm White House.

Ychydig o dystiolaeth sydd bellach o'r bont a gariodd y ffordd dros y llinell ond mae ei strwythur yn dal i fodoli. Llenwyd y gofod o dan y bont a'r trychfa ar y naill ochr a'r llall i ddarparu lleiniau adeiladu ar gyfer tai newydd. Mae un o'r ffotograffau yn dangos y llinell yn wynebu'r gogledd tuag at y bont. Gellir gweld fferm White Oaks yng nghornel dde uchaf y llun. Heddiw, mae'r rhan hon o'r llinell yn gweithredu fel llwybr troed sy'n rhedeg tua'r gogledd, ar draws Lôn Bryn Gwyn ac ymlaen i Gei Connah.
Mae map 1910 o'r pentref yn dangos llinell gangen i Dublin Main i wasanaethu'r pwll glo ac i lwytho wagenni i'w cludo i ddociau Cei Connah. Roedd yn arfer i wagenni gwag oedd yn dychwelyd o'r dociau gael eu gyrru o flaen y locomotif i'w gwthio i seidin y pwll glo heb i'r locomotif fynd i mewn. Roedd clocbrenni (a elwid weithiau'n fwncïod) ar y pwyntiau hollti i atal cerbydau ffo. Gellir gweld un ddyfais o'r fath yn y llun ar y llinell yn agos at y gyffordd â'r brif linell. Mae'r enw mwnci yn dal i gael ei ddefnyddio mewn iaith mwyngloddio modern ac mae'n ddigon posib mai dyna darddiad llysenwau ein 2 dafarn.