Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Croeso i Northop Hall

Croeso i Northop Hall, pentref a dyfodd o'r angen i gartrefu'r glowyr a ddaeth i weithio yn y pyllau glo ym mhlwyf St Eurgain a St Pedr, Llaneurgain.

Croeso i'n Llwybr Pentref.
Hoffem fynd â chi ar daith trwy ein pentref yn y presennol ac yn y gorffennol. Gallwch ymuno â'r llwybr ar unrhyw fan. Os byddwch chi'n cychwyn wrth gyffordd Four Lane End yn Smithy Lane, byddech chi'n cychwyn yn y Plasdy hanesyddol, sy'n weladwy o Smithy Lane, sy'n rhoi ei enw i Northop Hall.

O'n dibyniaeth ar amaethyddiaeth am gyflogaeth, daeth y Chwyldro Diwydiannol â phobl i fyw yn ein pentref pan ddaeth glo a chlai, adnoddau naturiol lleol, i gael eu defnyddio i'r eithaf. Chwyldrodd y rheilffordd y ffordd y dosbarthwyd ein nwyddau lleol, gan gael eu cludo ymhell ac agos o Ddociau Cei Connah gerllaw.

Mae'r pentref yn ymddangos ar Fap Ogilby yn 1675 ac yn Lloyds Parochialia ym 1690, sonnir am Ffermydd Northop Hall, Galchog, Plas Ifan, Plas Bellin, Bryn Gwyn a Phentre Moch ac hefyd y bont yn Corc a oedd newydd gael ei hadeiladu.

Ymddangosodd yr hyn sydd bellach yn rhan ddwyreiniol y pentref ar fapiau fel Pentre Moch gan gymryd yr enw o'r fferm mae'n debyg, ac adlewyrchu natur amaethyddol yr ardal neu i ddangos presenoldeb baedd gwyllt yn yr ardal.

Sefydlwyd y pyllau glo masnachol cyntaf ar ddiwedd y 18fed ganrif gyda'r diwydiant yn tyfu trwy'r 19eg ganrif. Wrth i'r pentref dyfu trwy'r 19eg ganrif, adeiladwyd y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau ar hyd Ffordd y Pentref gyda dim ond ychydig o fythynnod yn cael eu hadeiladu oddi arni, gan wneud y pentref yn ddatblygiad strimyn. Nid tan y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd y bu unrhyw wyro sylweddol oddi wrth hyn ac yna dim byd arall tan y 1950au. Mae'r pentref wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac i'r 21ain ganrif.

Paratowyd y llwybr hwn gan y Cynghorwyr Linda Thew a John Golledge, gyda Mr Ian Roberts. Hoffem hefyd gydnabod cyfraniadau'r diweddar Vic Williams am ei ymchwil a'i ddogfennaeth o hanes lleol, Mr Alan Peers a'r diweddar Bob Morgan am lunio byrddau darluniadol o hanes y pentref, ac Archifdy Penarlâg am eu caniatâd i gynnwys ffotograffau, mapiau a chofnodion eraill.

Ar gyfer Cyngor Cymuned Northop Hall

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth