Sefydlwyd grŵp Penyffordd, Penymynydd a Dobshill yn 1924 gan Elizabeth Hall.
Mae ei hwyres yn dal i fynychu ein cyfarfodydd sy'n gyswllt cyffrous a phwysig i'w gael. Wrth i ni agosáu at ein canmlwyddiant rydym yn parhau i fod yn grŵp cryf sydd ag aelodaeth o 46. Bydd y canmlwyddiant, fel bob blwyddyn, ar ein pen-blwydd, yn achos dathliadau - a chacen - wrth inni edrych tuag at y 100 mlynedd nesaf. Dim ond ychydig o'r nifer o weithgareddau sydd ar gael i aelodau yw'r grŵp crefftau a drefnir gan aelod, siaradwyr gwadd, ymweliadau, cymryd rhan yn ein sioe Sir Dinbych a Fflint, cystadlaethau misol, rhoddion elusennol, cysylltiadau yn lleol ac yn genedlaethol â grwpiau SyM eraill.
Cynhelir cyfarfodydd yn fisol ar nos Fawrth yn yr Institiwt Coffâu'r Rhyfel sydd newydd ei adnewyddu, a fu'n gartref drwy'r adeg. Mae croeso mawr i bawb.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma



