Mae'r teithiau cylch yn caniatáu i bobl archwilio cefn gwlad, natur a hanes o amgylch pentref Pen-y-ffordd.
Mae'r teithiau cerdded yn defnyddio llwybrau troed cyhoeddus a rhai ffyrdd gwledig. Gall y rhan fwyaf o bobl lwyddo i'w gwneud yn hawdd, ond maent yn cynnwys croesi camfeydd, ac felly nid ydynt yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau na chŵn na ellir eu codi. Mae da byw, gan gynnwys gwartheg a cheffylau, yn pori mewn llawer o'r caeau o amgylch y pentref felly dylid cadw cŵn ar dennyn.



