Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Capel Berthen, Lixwm

Capel Berthen, Lixwm

Dechreuwyd adeiladu Capel Methodistaidd cyntaf Berthen yn 1775 gan John Owen (1733-76), y cynghorydd Methodistaidd cyntaf yn Sir y Fflint, ond bu farw cyn ei gwblhau. Adeiladwyd y capel newydd hwn yn yr arddull Is-Glasurol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Rhestrwyd y capel yn bennaf ar gyfer diddordeb hanesyddol fel un o'r capeli Methodistaidd cynharaf yn Sir y Fflint, ac am ei gysylltiad â John Owen.