Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Dewi Sant

Mae Eglwys Dewi Sant yn adeilad Fictoraidd a wnaed yn bosibl trwy roddion gan deuluoedd cyfoethog yn y pentref.

Ymhlith y cymwynaswyr mae Walter Eddy, Asiant Mwynau i Ystâd Castell y Waun, a theulu Graessar Plas Argoed.

Un o drigolion nodedig y pentref oedd Miss Dorothy Hartley, wyres i Walter Eddy. Mae hi'n adnabyddus fel awdur a darlunydd a theithiodd yn eang gan gofnodi ei theithiau. Mae'n debyg mai ei chyhoeddiad mwyaf nodedig yw "Food in England" y credir iddo ysbrydoli Delia Smith, y cogydd teledu ac awdur llyfrau coginio. Gellir dod o hyd i fedd Miss Hartley ym mynwent yr eglwys lle mae hi wedi'i chladdu gyda'i chyndeidiau.