Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Gamlas yn Fron

Os dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr arwyddbost fe gewch eich hun ar fin croesi'r draphont ddŵr, edrychwch ar y rhigolau yn y gwaith haearn a wnaed gan raffau'r cychod a dynnwyd gan geffylau.

Basn Froncysyllte
Y derfynfa ar gyfer y gamlas, a adeiladwyd o'r de i'r gogledd wrth i'r Draphont Ddŵr gael ei hadeiladu. Mae hyn yn darparu lle i gychod angori a throi cyn gallu croesi'r dyffryn.

Clawdd Offa
Wrth wneud y gamlas, torrodd Telford trwy wrthglawdd llawer mwy hynafol, sef Clawdd Offa. Mae postyn marcio yn dangos y pwynt hwn ac os edrychwch ar draws y gamlas yn union gyferbyn mae'n ymddangos bod codiad tir wedi'i orchuddio â choed yn y dirwedd. Gweddillion y Clawdd yw hwn wrth gwrs.

Traphont Cefn
Wedi'i hadeiladu yn 1840au gan H. Robertson, i gystadlu â chludo ar gamlesi, gwelodd Telford hyn yn dod ac roedd yn un o'r rhesymau dros beidio â chwblhau camlas Ellesmere fel y cynigiwyd. Yn wahanol i'r hyn y mae llawer o bobl yn ei gredu, nid hwn oedd y farwol i drafnidiaeth ar gamlas oherwydd hyd at ddiwedd 1945, roedd cemegolion a ddefnyddid i wneud arfau rhyfel a oedd yn rhy beryglus i'w cludo heblaw gan ddŵr, yn cael eu cludo o'r ardal ar gwch.

Pont Iwerddon
Credir mai Pont Iwerddon yw lle y gwnaeth Telford i ffrwdd â'i 'navvies' Gwyddelig a chyflogi llafur o Gymru yn eu lle. Gallwch weld yr uniad oddi tano lle cafodd ei ehangu i fynd â thraffig modern.

Twnnel Whitehurst
Y gwaith symud daear mwyaf ers adeiladu'r pyramidiau yn yr Aifft! Cafodd y ddaear a'r rwbel a gloddiwyd oddi yma ac ymlaen tuag at Fron yn ystod y prosiect adeiladu camlesi eu cludo i Fron a'i ddefnyddio i adeiladu'r arglawdd ar yr ochr ddeheuol, gan fyrhau hyd angenrheidiol y Draphont Ddŵr.