
Daeth Ffowndri Pontcysyllte i fodolaeth ar yr adeg pan adeiladodd Telford y draphont ddŵr gyfagos ym 1795
Yn wreiddiol roedd yn loeren i Ffowndri Plas Kynaston, Cefn Mawr ac mae'n sicr bod rhannau bach o'r draphont ddŵr wedi'u bwrw yma. Yn wreiddiol, yr enw arno oedd Gwaith Haearn Pontcysyllte ac yn ei flynyddoedd olaf Ffowndri'r Gamlas. Bellach gelwir y lleoliad yn Bron Y Gamlas. Roedd y ffowndri yn cynnwys ffwrnais fawr, efail, swyddfa, amrywiol weithdai ac adeiladau eraill.
Aethpwyd â'r holl wastraff o'r ffwrnais, neu'r clincer, ar dramffordd fach i gornel bellaf yr iard lle cafodd ei roi ar gwch â gwaelod gwastad, ei gymryd i fyny'r gamlas a'i ddadlwytho yn y coed gerllaw.
Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd, trwy orchymyn y Llywodraeth, storiwyd rhannau o Awyrennau Mosquito ac injans o gychod glanio yma trwy gydol y rhyfel fel rhagofal yn erbyn cyrchoedd awyr posib. Yn y diwedd, cliriwyd y safle a heddiw nid oes tystiolaeth i ddangos bod ffowndri wedi bodoli yno erioed.