Arferai gorsaf reilffordd Trefor fod yn orsaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar Reilffordd Rhiwabon i'r Bermo.
Roedd y llinell yn drac dwbl rhwng Rhiwabon a Llangollen ac roedd blwch signal yn Nhrefor.
Yn ôl y Llawlyfr Swyddogol o Orsafoedd, roedd yr orsaf yn trin traffig nwyddau a theithwyr ym 1956 ac roedd craen 3-tunnell yn yr iard nwyddau.
Roedd seidins preifat hefyd o gyffiniau'r orsaf i'r gwaith brics tân yng nghanol y pentref, trwy groesfan reilffordd, ac i waith Monsanto Cefn Mawr. Roedd yr olaf hefyd yn cysylltu â Changen Pontcysyllte, a thrwy Gangen y Rhos yn y pen draw roedd yn ailymuno â'r brif reilffordd ar gyrion Wrecsam.





