Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Blodeuo Rhuddlan Bloom

Ffurfiwyd Blodeuo Rhuddlan Bloom yn 2016 er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth flynyddol Cymru yn ei Blodau. Yn wirfoddol, gwelir llawer o unigolion, grwpiau a busnesau yn Rhuddlan yn creu gwaith rhagorol yn y gymuned. Maent yn plannu blodau, llwyni a choed er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd yn lân ac yn daclus.

Penderfynodd y Cyngor Tref y dylsai'r gwaith ardderchog hwn gael ei gydnabod felly sefydlwyd gweithgor i dynnu pawb at ei gilydd a chafwyd nod uchelgeisiol drwy gystadlu yng ngystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, oherwydd ymrwymiad a'r gymuned.
Ers ffurfio Blodeuo, enillwyd tair gwobr aur yn ddilynol, llwyddiant rhyfeddol.

Enwebwyd Blodeuo Rhuddlan i gystadlu ym Mhrydain yn ei Blodau yn 2018 ac rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod y dref wedi ennill Aur yng nghatagori trefi bychain. Cyrhaeddiad gwych i'r gymuned
Cynhelir gweithgarau yn rheolaidd yn y Ganolfan Gymunedol. Mae croeso mawr i bob gwirfoddolwr newydd ddod atom ac i helpu gyda'r fenter werth chweil hon.

Caiff y gyllideb ar gyfer Blodeuo Rhuddlan Bloom ei ddarparu'n garedig gan y Cyngor Tref.