Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Canolfan Gymunedol Rhuddlan

Canolfan Gymunedol Rhuddlan

Mae'r Ganolfan Gymunedol yn ganolbwynt y gymuned.

Ar y lleoliad yma yn flaenorol roedd yna sied dun a ddefnyddiwyd gan sefydliadau fel y Clwb Ieuenctid. Drws nesaf i'r sied roedd yna Neuadd Goffa a oedd yn darparu lleoliad i cyn filwyr i gyfarfod a chwarae gemau fel snwcer. Fodd bynnag, cafodd y cyfleusterau eu hamddifadu a'u condemnio yn y pen draw.
Daeth grŵp o drigolion ynghyd i gydweithio â'r gymuned i ymgymryd â phrosiect codi arian heriol i adeiladu Canolfan Gymunedol Rhuddlan. Mae'r Ganolfan wedi gwasanaethu anghenion y gymuned ers dros 30 mlynedd.
Rheolir y Ganolfan gan bwyllgor cyd-gysylltiol y gymuned sydd yn grŵp bywiog iawn yn gofalu amdano. Y mae'r ganofan yma yn ganolbwynt y gymuned. Cynhelir ystod eang o weithgareddau yno megis dosbarthiadau iaith, yoga, clwb ciio ac ati. Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn cynnal eu cyfarfodydd yno hefyd.