Ewch i mewn i'r Eglwys ac edrychwch ar rai o'r manylion hyfryd
Mae yna rhai ffenestri arbennig yn yr Eglwys. Rhoddwyd amrhyw ohonynt gan Deulu Bodrhyddan. Gosodwyd y Ffenestr Goffa ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Daethpwyd o hyd i ddau sgerbwd yn y wal pan oeddent yn ei gosod, un wedi ei orchuddio gyda gwellt ac un mewn clai does neb yn gwybod pam gafodd y ddau eu disodli'n ofalus.
Noddodd teulu y diweddar Bill Catherall y ffenestr (a gynlluniwyd gan Drew Pritchard) i goffau saith can mlwyddiant yr Eglwys.
Mae rhai arysgrifau prin iawn o'r Beibl ar y muriau yn Gymraeg, gobeithir eu hadfer yn y dyfodol agos.
Mae gan Deulu Bodrhyddan gladdgell o dan yr allor a lenwyd yn 1637. Ychwanegwyd y mawsolewm yn 1820. Mae yna pedair carreg yn yr eglwys, un yn agos i'r allor yn perthyn i'r Esgob William DeFriny, (Arch Esgob Syria a briododd un o'r teulu Rowley-Conwy) ac mae'r tair arall efallai yn tri gorchydd bedd, (a ddaeth o'r Abaty), ar y wal tu ôl i gist y warden a wnaethpwyd tua'r 1700



