Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffôs y Dref

Ffôs y Dref

Efallai mai'r banc dwbl, a elwir yn Ffôs y Dref, yw olion y Dref Saxon neu yn rhan o amddiffynfeydd y dref a adeiladwyd gan Edward 1 yn 1277.

Roedd Cledemutha, yma yn Rhuddlan, yn un o nifer o drefi a adeiladwyd gan y Sacsoniaid yng ngogledd ddwyrain Cymru ac efallai eu bod wedi eu hadeiladu i amddiffyn yr ardal rhag cyrchoedd y Llychlyn wyr. Ymestynodd y dref neu burh gaerog dros tua 74 erw. Darganfwyd pwysau crochenwaith tu a chalon â gweddillion tai wedi'u canfod yno. Yn Hydref 1277 roedd bron i 1000 o bobl yn gweithio i Edward I yn Rhuddlan. Roedd llawer ohonynt yn gweithio ar y Castell, rhai ohonynt ar gamlesi yr Afon Clwyd ac eraill ar lannau y dref. Byddai'r banciau dwbl hyn wedi cynnwys ffôs wedi ei llenwi â dŵr a gallai fod ganddynt ffens goed i gadw pobl y dref yn ddiogel.