Mae pobl leol ac ymwelwyr yn hoff iawn o Dalacre.
Mae'r goleudy eiconig, y traeth tywodlyd hir a'r twyni tywod symudol wedi denu ymwelwyr ers bron i 100 mlynedd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth y cartrefi gwyliau yn y Warren yn gartrefi parhaol i bobl yn dianc rhag y bomio dros Lerpwl a dinasoedd eraill tra bod peilotiaid RAF ifanc yn ymarfer tanio yn y twyni tywod a throstynt.
Ar ôl y rhyfel, tyfodd Talacre fel cyrchfan wyliau a heddiw mae yna nifer o barciau carafannau moethus gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau tra bod gan y pentref ddewis o gaffis, tafarndai, siopau ac arcedau.
Mae ehedyddion, llyffantod y twyni a madfallod y tywod dirgel yn ffynnu yn y twyni tra bod planhigion yr ardd yn tyfu ochr yn ochr â blodau gwyllt, creiriau o oes a fu.








