
Cyfarfu Linda a Mick pan oedd y ddau ar wyliau yn Nhalacre yn y 1960au.
Ar ei gwyliau cyntaf yn 15 oed, y cyfarfu Linda â Mick. Roedd hyn ar ei noson olaf ond parhaodd y ddau i ganlyn adref yng Nglannau Mersi. Arhosodd Talacre yn wastad yn lle arbennig iddynt a threuliasant lawer o wyliau yno. Priodasant yn 1969 ac, fel y disgwyl, treulio eu mis mêl yn Nhalacre.
Mae eu cariad hir wedi parhau, nid yn unig gyda'i gilydd ond hefyd gyda Talacre lle maent bellach yn byw'n barhaol!