Adeiladwyd y goleudy gwreiddiol yn 1776 ar ôl colli dwy long ar y môr.
Roedd 2 o oleuadau, un i ddisgleirio tuag at Landudno a'r llall i fyny Aber Afon Dyfrdwy. Adeiladwyd y goleudy presennol yn 1844 a bu mewn defnydd tan 1884.
Roedd dau fwthyn goleudy ar gyfer y ceidwaid a'u teuluoedd, gyda sarn garreg yn eu cysylltu â'r goleudy, ond maent wedi'u claddu yn y tywod ers tro byd.
Mae yna sïon fod ysbrydion yna ac mae pobl yn honni eu bod wedi gweld ceidwad yn gwisgo dillad hen ffasiwn o flaen y gromen wydr.
Roedd y goleudy wedi ymddangos yn hysbyseb teledu Dulux yn 2011.



