Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Thomas Williams - Y Brenin Copr

Thomas Williams - Y Brenin Copr

Roedd Thomas Williams, a elwid y 'Brenin Copr', yn berchen ar Fwyngloddiau Mynydd Parys ac mewn gwirionedd yn rheoli'r diwydiant copr ym Mhrydain am 20 mlynedd hyd ei farwolaeth yn 1802.

Roedd Williams yn gyfreithiwr a bu'n ymwneud ag achos cyfreithiol ynglŷn â Mwyngloddio Copr Parys a arweiniodd iddo fod yn bartner yn y cwmni. Fe sefydlodd waith toddi copr yn Abertawe a Swydd Gaerhirfryn ac agorodd y Gwaith Copr Batri yn Maes Glas ym 1765. Roedd y felin droi yn cynhyrchu talennau copr a ddefnyddiwyd ar gyfer leinio cyrff llongau i atal llyngyr toredo fwyta i'r coed a Thomas Williams ddatblygodd folltau copr i sicrhau'r talennau yn eu lle, a chael patent arnynt.

Gelwid Williams hefyd yn Twm Chwarae Teg.