Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Arfordir Sir y Fflint

Mae Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir / 40km o Gaer i Gronant.

Mae Aber Afon Dyfrdwy yn lle arbennig iawn lle mae diwydiant hen a newydd yn eistedd ochr yn ochr â safleoedd hanesyddol megis Castell y Fflint, wedi'u hamgylchynu gan fywyd gwyllt sydd â phwysigrwydd rhyngwladol. Mwynhewch awyr iach a golygfeydd sy'n newid bob dydd gyda'r llanw a'r tymhorau.

Os nad oes gennych amser i gerdded ar hyd y llwybr, yna mae yna 6 pheth hanfodol i'w gwneud ar hyd Arfordir Sir y Fflint.

Gwyliwch y cychod a'r pysgotwyr yn Noc Maes Glas
Darganfyddwch Castell y Fflint a'i Phenrhyn
Mwynhewch y golygfeydd o Bettisfield
Mwynhewch y machlud o Ddoc Cei Connah
Chwiliwch am gregyn ar draeth Talacre
Darganfyddwch sut oedd bywyd o dan y ddaear gyda llwybr digidol Y Parlwr Du

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ar 01352 703900 neu ewch i www.flintshire.gov.uk/countryside