Mae gan Ddyffryn Maes Glas filltir a hanner o goetiroedd a phum cronfa ddŵr, sy'n gartref i doreth o fywyd gwyllt.
Yn y gwanwyn mae'r coetiroedd yn garped o glychau'r gog ac yn llawn sŵn adar sy'n hawlio eu tiriogaeth. Yn yr haf mae'r coetiroedd yn cynnig troeon cysgodol tra yn yr hydref maent yn fflam o liw, yn llawn cnau, aeron a ffyngau egsotig.
Mae'r pum cronfa yn gartref i elyrch gwych ac adar megis cwtieir ac ieir dŵr. Mae bronwen y dŵr yn nythu yn niogelwch y glannau ond gellir eu gweld yn hedfan yn isel dros y dŵr neu'n bwydo yn y dŵr bas.
Edrychwch am y tywodlys hardd sy'n tyfu uwchlaw Lefel Holway. Fe'i gelwir hefyd yn plymlys oherwydd ei fod yn tyfu ar lethrau sy'n cynnwys lefelau uchel o blwm.



