Mae'r brif lwybr trwy Ddyffryn Maes Glas yn dilyn llinell yr hen reilffordd.
Agorwyd Gorsaf Dref Treffynnon ym 1912. Y 'Tren Bach' oedd y tren teithwyr serthaf ym Mhrydain gyda graddiant o 1:27 ac roedd yn llinell brysur gyda 16 o drenau bob ffordd yn ystod yr wythnos. Roedd lifft ar yr orsaf, ar gyfer nwyddau yn unig, ond weithiau byddai gard caredig yn gadael i bobl â phram ei ddefnyddio.
Yn wreiddiol, roedd y llinell i fod i gyrraedd Yr Wyddgrug ond daliwyd y cynlluniau yn ôl pan ddechreuodd y rhyfel ym 1914.
Ymhellach i lawr y trac roedd arhosfa Santes Gwenffrewi, a oedd yno er budd ymwelwyr i'r Ffynnon a gweithwyr mewn melinau cyfagos.





