
Agorodd Thomas Patten Waith Copr Batri, y gwaith copr cyntaf yn Nyffryn Maes Glas, ym 1765.
Heddiw, mae'n anodd dychmygu'r sŵn morthwylion dŵr yn cnocio a mowldio'r copr yn sosbenni, powlenni ac ingotiau i'w allforio i Orllewin Affrica, i gael eu cyfnewid am gaethweision.
Cymerodd Thomas Williams y busnes drosodd ar ran y Greenfield Copper and Brass Company ym 1785, gan wella'r gweithfeydd a chynyddu masnach. Adeiladwyd Melin y Ddôl ym 1787 i gynhyrchu talennau ac weiars copr, tra agorwyd melin lai y flwyddyn ganlynol i gynhyrchu rholeri copr ar gyfer y fasnach argraffu.
Caewyd y gwaith ym 1898 a defnyddiwyd yr adeiladau gan wahanol gwmnïau. Roedd Gwalia Hosiery Company yn cynhyrchu crysau, dillad isaf a phyjamas o 1901, gan ddefnyddio'r pŵer 65 marchnerth a gynhyrchwyd gan yr olwynion dŵr. Ym 1965 dinistriwyd y ffatri gan dân, oll sy'n weddill yw tŵr y cloc a'r simnai a gludai'r mwg o'r ffatri.
Adeiladwyd Batri Row yn yr 1780au i gartrefu'r gweithwyr. Roedd yna siop a 26 o fythynnod teras, pob un â dwy ystafell i fyny ac i lawr grisiau. Roedd gan rai seler a phan gafodd y pwll ei ymestyn roedd yn rhaid i bobl fricio’r drysau cefn a gadael i'r llifogydd lenwi'r seler. Dymchwelwyd Batri Row yn y 1960au.