Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Melin Bapur yr Abaty

Melin Bapur yr Abaty oedd y felin bapur fwyaf yng Nghymru yn 1854, gan gynhyrchu papur ysgrifennu a llyfrau cyfrifon o'r radd flaenaf.

Mae'n debyg mai'r Mynaich Sistersaidd oedd y cyntaf i gynhyrchu papur yn Nyffryn Maes Glas. Adeiladwyd Melin Bapur yr Abaty ger Abaty Dinas Basing tua 1821 ac fe'i cymerwyd gan gwmni Grosvenor, Chater & Co o Lundain ym 1854.

Roedd y lleoliad yn berffaith gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ar y rheilffordd neu'r môr ar gyfer deunyddiau crai gan gynnwys gwair esparto o Ogledd Affrica. Roedd Muspratt yn y Fflint yn cyflenwi'r cemegau oedd eu hangen, daethai glo o Chwarel Englefield lai na hanner milltir ar hyd yr arfordir ac roedd digon o ddŵr o Ffynnon Santes Gwenffrewi.

Roedd y maes parcio yn bwll tan 1885 ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel cyrtiau tennis. Caewyd y felin bapur yn yr 1980au ond mae llawer o bobl yn cofio arogl pigog y gwair esparto.

Dros y ffordd roedd gwaith mwyndoddi sinc, gyda William Crockford o Lundain yn rhedeg y busnes. Cafodd calamin ei gloddio'n lleol, yn enwedig o Lefel Holway ac fe'i defnyddiwyd wrth gynhyrchu pres yn ogystal â sinc.