Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stiwt - the Miners' Institute

Stiwt - the Miners' Institute

Mae Sefydliad y Glowyr yn Rhos yn fwy adnabyddus gan ei enw Cymraeg "Stiwt".

Codwyd a thalwyd am y Stiwt gan y glowyr, yn ystod streic gyffredinol 1926, fel canolfan gymdeithasol a diwylliannol i'r gymuned. Roedd yn cynnwys theatr, neuadd gyngerdd, ystafell gemau a llyfrgell. Yn dilyn cau pwll yr Hafod yn 1968, dirywiodd y Sefydliad ac fe'i caewyd ym 1977. Prynodd y cyngor lleol yr adeilad ym 1978. Cynlluniwyd y gwaith dymchwel yn 1985, ond cafodd ei arbed o ganlyniad i ymgyrchu lleol. Yn dilyn ymdrechion i godi arian, fe'i hadnewyddwyd a'i hailagor fel theatr gymunedol ac felly mae'r adeilad rhestredig hardd hwn yn dal ar agor i'r cyhoedd.