Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Aber Afon Dyfrdwy

Mae Aber Afon Dyfrdwy wedi bod yn llwybr llongau pwysig ers cyfnod y Rhufeiniaid pan byddai deunyddiau crai yn cael eu cludo o Gaer i weddill yr Ymerodraeth.

Roedd Castell y Fflint, a adeiladwyd ym 1277, wedi'i leoli yn strategol ar Afon Dyfrdwy fel y gallai cyflenwadau gael eu dwyn i mewn gan gychod. Glo o'r pyllau glo, haearn o Fostyn, deunydd copr o Greenfield, plwm o Fagillt, cemegau o'r Fflint, dur o Shotton a llestri pridd o Fwcle i gyd yn cael eu cludo drwy Aber yr Afon Dyfrdwy.

Erbyn 1900 roedd bron i 2000 o longau yn gweithio ar y Ddyfrdwy, yn cludo 160,000 tunnell o gargo bob blwyddyn. Roedd cychod yn fychan yn y dyddiau cynnar, yn cario 10 neu 20 tunnell, ond adeiladwyd sgwneri yn ddiweddarach i gario 250 neu 300 tunnell. Y llongau "Kathleen and May", a adeiladwyd gan Ferguson & Baird yng Nghei Connah yn 1900, yw'r llong hwylio fasnachol olaf i'w hadeiladu yng Nghymru.

Mae'r Dyfrdwy yn dal i fod yn gyswllt trafnidiaeth allweddol heddiw. Mae'r adenydd A380 enfawr a wneir yn Airbus yn cael eu cario ar fad pwrpasol ar hyd y Ddyfrdwy o Frychdyn i Fostyn lle cânt eu llwytho ar long arall i'w cymryd i'r ffactri gydosod derfynol yn Ffrainc.