Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Rheilffordd Caer i Gaergybi

Rheilffordd Caer i Gaergybi

Agorodd rheilffordd Caer i Gaergybi ar 1 Mai 1848 gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer symud glo yn effeithlon ac yn economaidd.

Prynwyd y lein gan gwmni rheilffordd London and North Western Railway (LNWR) ym 1859 a dechrau annog ymwelwyr dydd ac ymwelwyr gwyliau i drefi glan môr y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno.

Gwnaethpwyd cytundeb cilffordd gyntaf rhwng Y Parlwr Du gyda LNWR ym 1907. Gellid gweld y caban signalau a oedd yn rheoli'r mynediad i'r cilffyrdd prysur a'r rheilffyrdd ar y safle.

Yn yr orsaf roedd yr hen iard lo, a dyma lle'r oedd gwerthwyr glo lleol yn prynu eu glo yn syth oddi ar dryciau o'r pwll. Fe'i sieflwyd i mewn i sachau can pwys a oedd yn costio pedwar swllt a deg ceiniog yn y dyddiau hynny.