
Y Parlwr Du oedd yn un o'r pyllau olaf i'w fecanyddu, ac felly fe ddefnyddiwyd merlod o dan ddaear tan 1968.
Merlod mynydd Cymreig oedd yn gweithio ar y talcenni glo oherwydd eu bod yn geffylau bychan, ond er hynny roeddent yn aml yn taro'i pennau oherwydd bod y to mor isel mewn mannau. Roedd y merlod tynnu dau dwb ar y tro wedi ei llenwi â thunnell o lo.
Roedd y prentisiaid ifanc a oedd yn gweithio gyda'r merlod yn ofalus iawn ohonynt, ac yn aml yn mynd ag afalau neu foron i lawr ar eu cyfer.
Roedd Glyn Hughes yn cofio, "Enw fy ngheffyl oedd Turpin. Ar fy more cyntaf gyda'r ceffyl, es 'Gee up horse', ac roedd yn gwrthod symud, 'Gee up horse' ac eto, gwrthodai symud. Dyma hen löwr yn dweud 'Glyn,' i 'waeth i ti heb, tydi'r merlod ddim yn deall Saesneg. Bydd rhaid i ti ddysgu Cymraeg a siarad Cymraeg â nhw. ' Felly mi ddysgais Gymraeg, er mwyn i mi siarad Cymraeg â'r merlod yn y pwll glo. "
Roedd 4 stabl danddaearol a oedd yn gartref i tua 70 o ferlod. Cariwyd y tail i fyny i'r wyneb a'i werthu ar ddiwedd y ffordd. Rhagfeirch oedd pob un o'r merlod, ac fe'i hyfforddwyd ar y wyneb er mwyn iddynt arfer gyda sŵn y cadwyni'n ysgwyd.
Ar gyfartaledd roedd eu bywyd gwaith yn 20 mlynedd ac roedd y gofal ar eu cyfer yn dda. Nid oedd shifft ddwbl i'r merlod a gallech gael eich diswyddo am gam-drin merlen.
Roedd Marchogaeth merlod hefyd yn drosedd. Cafodd un glöwr ei roi ar ferlen ar ôl damwain, ond fe ddaliodd y fforman ef a chafodd ddirwy, er ei fod wedi torri nifer o fysedd ei draed! Jolly a Sam oedd y ddwy ferlen olaf i weithio ym mhwll glo yn y Gogledd, daethant 'nôl i'r wyneb ym 1968.