Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Sianti'r Parlwr Du

Gwrando

Caryl Parry Jones yn canu Sianti'r Parlwr Du, a ysgrifenwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect.

Cytgan
O dan môr Iwerddon mae ‘na
Drysor dan y lli,
Un mwy gwerthfawr nag aur y byd
I ni yn Y Parlwr Du.

Gweithio’r dydd a gweithio’r nos
I gloddio’r trysor du
Chwys a chân a chalon lân
Yn uno’r brodyr , cynna’r tân
Yn ein heneidia ni.

Mil troedfedd yna mwy
O dan y tonnau mawr,
Dyna lle mae’r trysor drud
Lawr â ni bob brawd ynghyd
I gasglu’r wobr fawr.

Hawê geffyl bach, hawê
Tyn y drol yn gry’
Tyn y trysor â’th holl nerth
Nei di byth ddallt be ‘di gwerth
Dy faich o garreg ddu.