Ar ôl i'r pwll gau yn 1996 clirwyd y tir, gan adael dim tystiolaeth o'r pwll.
Doedd gan gerddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru nac ymwelwyr eraill unrhyw arwydd o arwyddocâd y safle ar aber yr Afon Dyfrdwy.
Yn 2016 daeth grŵp o gyn-lowyr at ei gilydd i sefydlu eu POACH, Point of Ayr Heritage Group, ac ynghyd â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint sicrhau arian i ddod ag un o'r olwynion weindio o'r pwll glo a'i osod ar y safle fel atgof parhaol.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys casglu atgofion y glowyr a'u teuluoedd yn ogystal â dod â phlant ysgol leol i'r safle i ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog a naturiol yr ardal.
Mae llwybr cylchol newydd wedi cael ei ddatblygu gyda thaflen a phaneli dehongli ar hyd y ffordd, yn ogystal â cherflun gwych o ferlen o'r a glöwr gan yr artist lleol Mike Owens.


