Defnyddiwyd y gerddi hyn i ddiddanu gwesteion am dros 200 mlynedd.
Fe'i gelwid yn wreiddiol yn Gerddi Castell y Waun. Adeiladwyd yr ardd waliog yn 1651 gan yr ail Syr Thomas Myddleton o Gastell y Waun. Roedd y waliau yn cynnwys pum erw o byllau pysgod a gerddi teras o goed oren a lemwn, blodau, llwyni a pherlysiau, yn ogystal â chaeau ceirw a thŷ gwledda ar gyfer diddanu. Ar hyn o bryd, ychydig iawn sy'n weddill o'r hen erddi ysblennydd.
Adeiladwyd tai hefyd ar y safle i helpu i letya teuluoedd glowyr o Lofa'r Parc Duon gerllaw yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Ar hyn o bryd mae 'Cyfeillion Gerddi Whitehurst' yn ymdrechu i ddychwelyd y gerddi i'w hen ogoniant.