Roedd Tramffordd Glyn Ceiriog yn cael ei ddefnyddio i gludo llechi, cerrig, gwlanen, gwenithfaen a phowdwr gwn i mewn ac allan o Ddyffryn Ceiriog.
Agorwyd y llinell gul wreiddiol (2 troedfedd 4 1/2 mod) ym 1873 ar ôl nifer o flynyddoedd o ddadlau rhwng tirfeddianwyr a busnesau lleol ac roedd yn gweithio gyda cheffylau.
Yn 1888 fe'i troswyd i stêm gydag amrywiaeth o fathau o beiriannau a addaswyd ar gyfer y gwaith tramffordd. Ar yr adeg hynny, cafodd y llinell ei ail-gyfeirio i orffen yng Ngorsaf y Waun lle adeiladwyd platfform bychan, ystafell aros a siediau injans.
Er ei bod wedi'i hadeiladu ar gyfer cludo nwyddau, roedd hefyd yn dechrau cario teithwyr. Oherwydd pwysau gan gludiant ffyrdd, fe ddaeth y rheilffordd i ben gan redeg y trên olaf ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, 1935.

