Adeiladwyd Castell Caergwrle gan y Tywysog Dafydd.
Pan oresgynnwyd Cymru gan Brenin Edward I ym 1276, gan orfodi'r Tywysog Llywelyn i encilio i Eryri, ymunodd Dafydd ag Edward yn erbyn ei frawd oherwydd ei fod yn teimlo bod Llywelyn wedi ei dwyllo o'i etifeddiaeth. Fel gwobr, rhoddodd Edward y tiroedd cyfoethog o amgylch Caergwrle a'r Hôb i Ddafydd.
Dros amser cafodd Dafydd ei ddadrithio am ei fod fel petai'n cael ei drin yn annheg pan roddwyd mwy o rym i arglwyddi Lloegr. Bum mlynedd yn ddiweddarach, fe newidiodd ochrau ac ymladd gyda'i frawd yn erbyn y goresgynwyr o Loegr. Ymosododd Dafydd ar Gastell Penarlâg gerllaw, a sbardunodd wrthryfel ffyrnig ar draws Gogledd Cymru. Yn y diwedd, profodd byddin aruthrol Edward yn rhy gryf i'r gwrthryfelwyr ac enillodd Edward reolaeth ar Gymru gyfan. Lladdwyd Llywelyn mewn brwydr ond cipiwyd Dafydd. I ddial am ei anffydlondeb, fe'i cafwyd yn euog o uchel fradwriaeth ac ef oedd y person cyntaf yn Lloegr i gael ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru am y drosedd honno.
Ni wnaeth Castell Caergwrle fawr gwell. Pan gyrhaeddodd milwyr Edward I ar 16 Mehefin 1282 gwelsant fod Dafydd wedi datgymalu ei gastell ei hun, wedi llenwi'r ffynnon a ffoi. Dechreuodd Edward ei ailadeiladu ond, flwyddyn yn ddiweddarach, fe cythrodd tân trwy rannau pren y castell a rhoddwyd y gorau i'r gwaith.


