Bwriwyd y rhes o glychau fel rhan o gofeb i anrhydeddu’r plwyfolion a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Daeth y gymuned ynghyd i ariannu'r clychau a llechen goffa bres yn cofnodi enwau'r rhai a syrthiodd. Roedd yn ymgymeriad heriol, yn enwedig gan ei fod yn wynebu chwyddiant difrifol ar ôl y rhyfel a rhwystrau eraill.
Ym mis Ebrill 1919, yr amcan bris cyntaf ar gyfer y clychau oedd £ 600, y cyfan i'w godi gan y gymuned, yn seiliedig ar y pris gwreiddiol a osodwyd gan y bwrwyr clychau, John Taylor & Co. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau codi arian ac ymatebodd busnesau lleol i'r apêl. Gwnaeth dros 700 gyfraniad, er gwaethaf y caledi ar ôl y rhyfel.
Ar 23 Ionawr, roedd Taylors yn barod i dynnu’r hen glychau i lawr ond cafodd y gwaith ei atal gan nad oedd yr eglwys wedi sicrhau caniatâd gan Esgobaeth Llanelwy!
Cododd y costau wrth i bris deunyddiau crai a chludiant godi, ac yna cynnydd cenedlaethol i gyflogau gweithwyr. Erbyn Ebrill 1920, roedd yr amcangyfrif diwygiedig £220 yn uwch na'r gwreiddiol felly roedd angen codi mwy o arian. Ymdrechodd plwyfolion Yr Hôb hyd eithaf eu gallu a chyrraedd y targed. Cysegrwyd y rhes o glychau a phlac coffa ar 16eg Rhagfyr 1920, cofeb barhaol i'r meirwon.




