Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gorsafoedd Caergwrle a'r Hôb

Agorodd Gorsafoedd Caergrwle a'r Hôb ym 1866.

Agorodd Rheilffordd Wrecsam, yr Wyddgrug a Chei Connah, a oedd â gorsafoedd yn Caergwrle a'r Hôb, ym 1866. Ar y dechrau, llinell cludo nwyddau ydoedd yn bennaf a oedd yn galluogi cludo nwyddau yn gyflym i Afon Dyfrdwy yng Nghei Connah ac yna eu cludo ymhellach i ffwrdd. Ymunodd llinell gangen, yn gwasanaethu pwll glo a melin Yr Hôb a'r pwll glo a gwaith brics gerllaw yn Llai, â'r brif reilffordd yn Abermorddu. Adeiladodd Bragdy Caergwrle linell gangen fach hefyd.

Roedd y gwasanaeth trên hefyd yn cludo teithwyr ac yn helpu Caergwrle i ddatblygu yn gyrchfan i dwristiaid, yn enwedig ar ôl agor pont droi Penarlâg dros afon Dyfrdwy ym 1889, a oedd yn galluogi'r gwasanaeth trên i ymestyn i Lerpwl.

Maen nhw'n ddwy o nifer fach o orsafoedd gwledig Sir y Fflint sy'n parhau ar agor heddiw.