Yn y 1940au a'r 50au roedd Stryd Castell yn lle prysur yn llawn siopau bach, caffis a thafarndai ac hefyd Sinema Derby.
Yn ogystal â'r sinema, roedd siop gigydd, Conde's y crydd, gwerthwyr llysiau, siop nwyddau metel Kitty, siop ddillad Vera a siop fwyd Hopwoods, hefyd swyddfa bost, cyfnewidfa ffôn, llyfrgell, siop bysgod a sglodion, barbwr a siop fferins oedd ar agor gyda'r nos i gyflenwi mynychwyr y sinema.
“Fy nhad, Jack Hurst, oedd y groser, y pobydd a'r cacennwr ac mae arogl bara ffres, o'r hen bobtai golosg, ynghyd ag aroglau coffi mâl yn atgofion plentyndod hyfryd.”
Lynda Molyneux a gafodd ei magu yn Castle Bakery





