Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bywyd Gwyllt yn y Parc

Mae'r Parc yn parhau i'n syfrdanu gyda'i fywyd gwyllt rhyfeddol.

Eleni mae dros 65 o wahanol rywogaethau o adar wedi'u nodi ar y safle. Mae'n hollol wych gweld pâr o Wyachod Mawr Copog yn harddu ein llyn ac yn nythu a magu rhai bach yn llwyddiannus yr haf hwn.

Mae meithrin y tir cadwraeth gwyrdd hanfodol hwn yn dangos ein hymrwymiad i annog bywyd gwyllt. Mae Glas y Dorlan, Bronwen y Dŵr, Gwybedog Smotiog a Brith, Gwalch Glas a Thylluan Frech, yn ogystal â Nadroedd y Gwair, Dyfrgwn a llawer o rywogaethau eiconig eraill ym Mhrydain yn cael eu denu at yr amrywiaeth o gynefinoedd cyfoethog rydyn ni'n eu rheoli yn y Parc. Rydym yn bwriadu cefnogi mwy o brosiectau cadwraeth yn y dyfodol i wella bioamrywiaeth.

Mae Parc yn y Gorffennol yn ymroddedig i ddod â hanes natur yn ogystal â threftadaeth yn fyw i ysgolion, myfyrwyr coleg a phrifysgol hefyd. Nod y prosiect yw adfer cynefinoedd bywyd gwyllt ac ail-greu amgylchedd naturiol dilys o'r ganrif gyntaf OC gyda ffawna a fflora o'r cyfnod cyn belled ag y bo modd.