Mae Llyfrgell Gymunedol Yr Hôb yn gweithredu fel canolbwynt yn y gymuned, gan gynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau.
Ers mis Mai 2016, mae Ysgol Uwchradd Castell Alun a’r grŵp gwirfoddol Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Yr Hôb wedi rhedeg y llyfrgell gymunedol a llyfrgell yr ysgol ar gampws Ysgol Uwchradd Castell Alun. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn amhrisiadwy yn rhoi systemau ychwanegol ar waith a sicrhau bod y Llyfrgell yn gallu cynnig mwy o oriau o wasanaeth i'r gymuned gyda stoc ddeniadol ac adnewyddadwy o lyfrau. Hefyd mae yno Archif Treftadaeth Leol. Ar hyn o bryd mae'r Ysgol yn darparu 9 awr yr wythnos ar gyfer staffio'r llyfrgell gymunedol / ysgol a gwirfoddolwyr yn gwneud 4 awr ychwanegol yr wythnos yn ystod y tymor. Mae amser y gwirfoddolwr yn ymestyn i 10 awr yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol.
Mae'r llyfrgell wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cwrdd â'r awdur poblogaidd gan gynnwys sawl awdur lleol. Ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, mae gwirfoddolwyr yn cynnig ystod o weithgareddau, llawer ohonynt wedi'u hanelu at bobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau crefft, sesiynau amser stori, dangos ffilmiau, arddangosiadau o sesiynau hud neu gelf a chrefft coed. Cynhelir Her Ddarllen Haf hynod boblogaidd i bobl ifanc yn ystod y gwyliau ac mae gweithgareddau tymhorol bob amser adeg y Pasg, y Nadolig a Chalan Gaeaf.
Oriau agor (amser tymor)
Dydd Llun 9.30-12.30, 15.00-19.00
Dydd Mawrth 9.30-12.30
Dydd Mercher 9.30-12.30
Dydd Sadwrn 10-12.00

