
Mae David Healey yn esbonio pam mae Cawg Caergwrle mor bwysig a beth mae'n ei olygu.
Daethpwyd o hyd i'r Cawg ym 1823 gan weithiwr a oedd yn draenio tir yn agos at Afon Alun. Mae'n dyddio o'r Oes Efydd ac fe'i gwnaed dros 3 - 4,000 o flynyddoedd yn ôl a chredir ei fod yn cynrychioli cwch. Mae'r marciau igam-ogam o amgylch y gwaelod yn cynrychioli'r tonnau tra bod y trionglau hir yn rhwyfau ac mae'r symbolau llygaid yn amddiffyn y morwyr rhag ysbrydion drwg. Mae cylchoedd consentrig yn cynrychioli tariannau rhyfelwyr a deithiasant mewn cwch. Mae wedi'i gerfio o siâl o Dorset ac wedi'i fewnosod â thun.
Mae'r darganfyddiad hwn o arwyddocâd enfawr gan ei fod yn dweud cymaint wrthym am arddull cychod yr Oes Efydd, sgiliau artistig a chrefftus y bobl, y deunyddiau a ddefnyddiwyd ganddynt, credoau posibl, pwysigrwydd teithio a chludiant ar gyfer masnach tra bod y tariannau yn rhoi arwydd o drais yr oes.
Mae'r Cawg yn cael ei harddangos ar hyn o bryd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd.