Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Croeso i'r Hôb a Chaergwrle

Mae'r Hôb a Chaergwrle yn ddwy gymuned nodedig sydd wedi'u gwahanu gan Afon Alun, a'u huno gan bont pynfarch hynafol.

Mae hanes cyfoethog i'r ddau le. Saif Castell Caergwrle yn falch uwchben Caergwrle tra yng nghanol yr Hôb mae'r eglwys sy'n un o'r cynharaf yn Sir y Fflint.

Arweiniodd darganfod dŵr sba yn agos at Blas Rhyddyn at ddatblygu cyrchfan i ddenu nifer fawr o bobl. Agorodd y rheilffordd ym 1866 a olygai y gallai pobl o Lannau Mersi fwynhau diwrnod allan yng Nghymru i gymryd y dyfroedd yn ogystal ag ymweld â'r castell, cerdded i fyny Mynydd yr Hôb a nofio yn yr afon. Ffynnodd siopau te a chaffis er bod rhai preswylwyr yn poeni am ba mor stwrllyd oedd yr ymwelwyr, yn enwedig ar ddydd Sul.

Mae ymwelwyr yn dal i gael eu denu i’r ardal heddiw i atyniadau hen a newydd gan gynnwys y Prosiect Parc yn y Gorffennol cyffrous tra bod gan y ddau bentref ysbryd cymunedol gwych. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau archwilio ein hardal leol!

Mae 'Live in Hope, die in Caergwrle' yn hen ymadrodd sy'n dod o'r amser pan oedd meddwon yn cael eu cadw dan glo dros nos wrth waelod y Castell!