
Ychwanegwyd y llwybr pysgod blaenorol at y gored wreiddiol yn y 1930au, fodd bynnag, nodwyd nad oedd yn helpu pysgod i basio dros y gored.
Roedd hyn yn golygu fod llawer o bysgod yn methu a chyrraedd tiroedd silio pwysig i fyny'r afon. Felly, yn 2010 cychwynnodd y gwaith ar gored newydd i ddod â'r afon i safonau Ewropeaidd. Mae'r llwybr pysgod newydd yn agor dros 38km o afon i bysgod sy'n mudo megis eog, sewin a llyswennod, felly'n cynyddu'r rhywogaethau pysgod a nifer y pysgod sy'n defnyddio Afon Alun.