Codwyd y groes yn y fan hon ar ochr y ffordd gan Mary Louisa Sykes er cof am “ein dynion a fu farw yn ymladd dros gyfiawnder” yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r arysgrif ar y gwaelod yn cofnodi hefyd ei bod wedi “disodli'n barchus adfeilion y groes”. Mae hwn yn gyfeiriad at y groes garreg hynafol o'r enw Croes Howell. Gallwch weld ei gweddillion yma, o flaen y plinth. Ar ddiwedd y 15fed ganrif mae'n debyg bod y groes yn wrthrych amlwg yn yr ardal. Fe wnaeth yr hynafiaethydd Edward Lhuyd ei chynnwys mewn rhestr o groesau ym 1698. Fodd bynnag, ym 1911 cofnodwyd mai dim ond 45cm o'r groes oedd ar ôl, ar bedestal tua 90cm o led. Bryd hynny roedd ar gwr y coed wrth ymyl lawnt Tŷ Croes Howell, gerllaw.
Comisiynodd Cyngor Cymuned Yr Orsedd adnewyddu'r gofeb ryfel hon yn 2014 er mwyn gwarchod y gofeb am flynyddoedd i ddod.


