
Cynhaliodd aelodau’r ffydd Babyddol yn y pentref gyfarfodydd gyntaf mewn ystafell uwchben y stabl y tu ôl i siop y cigydd yn Ffordd yr Orsaf.
Pan oedd y teulu Topham (perchnogion Cae Ras Aintree) yn byw ym Mhlas Darland, fe wnaethant drosi'r ystafell ddawns yn y Plas yn gapel felly cynhelid gwasanaethau yno. Pan newidiodd perchnogaeth y Plas fe symudon nhw i'r ystafell ddawns ym Mhlas Horsley, gan symud wedyn i'r cwt pren a adeiladwyd ar ben Gun Street. Ym 1972 prynwyd darn o dir ar gornel Harwoods Lane ac adeiladwyd eglwys newydd ar y safle.