Dyluniodd y penseiri o Gaer, Douglas a Fordham, yr eglwys newydd, gan gynnwys rhai o'r celfi gosod mewnol fel y seddau a chist yr organ.
Ail-ddefnyddiwyd y pulpud, derw cerfiedig, o'r eglwys wreiddiol, ynghyd â'r lampau yng nghorff yr eglwys a'r ystlys ogleddol gyda'u gwaith haearn addurnedig. Mae bedyddfaen yr eglwys flaenorol yn sefyll y tu allan i'r gangell - edrychwch i'r dde wrth i chi gerdded o borth y fynwent i fynedfa'r eglwys.
Mae'r cloc yn y tŵr wedi'i ddyddio 1902 a'i lofnodi ER. Roedd yn coffáu coroni’r Brenin Edward VII yn y flwyddyn honno. Mae'r tŵr yn cynnwys wyth o diwbglychau.
Mae'r ffenestr fawr ddwyreiniol - sy'n amlwg wrth edrych ar yr eglwys o'r briffordd a phorth y fynwent - yn cynnwys gwydr lliw gan Charles Eamer Kempe. Roedd yn Gristion duwiol ond oherwydd nam ar ei leferydd ni ddaeth yn offeiriad. Yn lle hynny, dyluniodd ffenestri a chelfi i eglwysi.