Mae'r Eglwys Bresbyteraidd ar Ffordd yr Orsaf yn parhau i fod yn weithredol. Mae'n adeilad pwysig arall gyda thalcen blaen onglog serth a meindwr urddasol.
Adeiladwyd yr eglwys ym 1875 i ddyluniad gan y pensaer o Gaer John Douglas i ddisodli'r Eglwys Bresbyteraidd wreiddiol ar Gun Street a oedd wedi mynd yn rhy fach i'r mudiad anghydffurfiol cynyddol yn y pentref. Mae'r eglwys dan ddylanwad yr arddull Gothig gydag agoriadau bwaog pigfain â fframiau tywodfaen. Mae'r fynedfa wedi'i hamgáu gan gyntedd pren gyda tho llechi. Mae rheiliau haearn bwrw yn dynodi'r ffin flaen.
Ers 2018 mae’r ystafell gyfarfod ar ochr yr Eglwys Bresbyteraidd wedi dod yn lleoliad ar gyfer swyddfa bost allgymorth a chaffi cymunedol sydd ar gael bob dydd Gwener rhwng 10.30 am - 12.30 pm.