Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bethesda

Eglwys Bresbyteraidd Bethesda

Adeiladwyd capel Presbyteraidd Cymraeg Bethesda yn arddull Neoglasurol Fictoraidd, fel teml Rufeinig neu Roeg, ym 1864, gan gymryd lle capel llai a arferai fod ar yr un safle.

Bu i gynulleidfa Bethesda logi pensaer ifanc o Lundain i ddylunio eu man addoli. Dyluniwyd capel Heol Tyddyn gan yr un pensaer, ac adeiladwyd ar yr un pryd â Bethesda, ond y tro hwn mewn arddull gothig Fictoraidd, fel eglwys blwyf fychain.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth capeli yn rhan llawer mwy amlwg o fywyd yn yr Wyddgrug. Yn ogystal â gwasanaethau crefyddol roeddent yn cynnal eisteddfodau a dadleuon, llyfrgelloedd, ac yn ganolfannau cymdeithasol pwysig. Roedd rhai yn cynnal eu gwasanaethau yn Saesneg ond roedd y rhan fwyaf yn yr Wyddgrug ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Pan fo'r dysgu mewn ysgolion yn dysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, y capel oedd yr unig fan lle'r oedd pobl yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth Daniel Owen i'r capel hwn.