



Delweddau Oliver Cromwell a Lloyd George ymhlith y cerfiadau uwchben porth yr eglwys. 
Gorymdaith o gerfiadau unigryw yr eglays. 





Eglwys Plwyf Yr Wyddgrug
Mae Eglwys plwyf Yr Wyddgrug wedi'i neilltuo i'r Santes Fair. Fe'i lleolir o fewn plot cylchol, ac o'i hanfod yn Geltaidd, felly mae'n debyg ei fod yn safle crefyddol cynnar. Crybwyllir fod eglwys yn Yr Wyddgrug mewn dogfen o ganol y drydedd ganrif ar ddeg ond mae rhannau cynharaf yr adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif, yn ystod cyfnod Margaret Beaufort, mam Harri VII a'i gŵr, yr Arglwydd Thomas Stanley, Arglwydd Maenor Yr Wyddgrug. Hwy dalodd i ailadeiladu'r eglwys i ddiolch i Dduw am fuddugoliaeth Harri ym Mrwydr Bosworth ym 1485 a enillodd y goron gan gychwyn breninliniau’r Tuduriaid. Gellir gweld arfluniau teulu Stanley, Tair Coes Dyn, Crafanc Eryr, a'r Eryr a'r Plentyn yn y gwaith cerrig a'r ffenestri lliw. Syllwch yn ofalus i'w gweld!
Adeiladwyd y tŵr presennol yn 1773 oherwydd bod yr un cynharach yn anniogel.