

Tua 1900 
Bedd yr arlunydd Richard Wilson (1713-1782).
Mynwent yr eglwys
Roedd y fynwent, sy'n edrych dros y dref, yn wreiddiol mewn ffurf siâp cylch. Mae'r estyniad o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ei rannu â wal derfyn.
Cafodd y rhan fwyaf o'r cerrig beddau a ellir ei gweld yn y llun o'r 1900 eu clirio ym 1958. Fe'i hadleoliwyd hwy bob ochr yr eglwys a'r fynwent. Ar ochr ddeheuol yr eglwys mae bedd goffr ar gyfer David Lloyd o Dyddyn, tirfeddiannwr lleol a fu farw ym 1658. Efallai mai'r bedd fwyaf diddorol yw'r un tu ôl i'r eglwys. Mae'n nodi man claddu Richard Wilson, fe'i disgrifir fel "tad tirluniau Seisnig". Ar ddiwedd ei oes, bu'n byw gyda'i gyfnither Catherine Jones o Golomendy, Loggerheads ac y mae ei bedd hi gerllaw. Gallwch ddarganfod mwy amdano yn adran 'Pobl' y llwybr hwn.