Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Marchnad Da Byw

Gwrando

Gwrandewch ar yr arwerthwr, sain gyfarwydd i siopwyr yn yr Wyddgrug ddydd Llun ac ar ddydd Gwener.

Gwrando

Mae Wynne yn esbonio pam fod y Farchnad Da Byw yn yr Wyddgrug yn arbennig.

Mae marchnad da byw brysur yr Wyddgrug yn rhan fawr o fywyd y dref. Fe'i cynhelir ar ddydd Llun a bore Gwener ac mae'n un o'r trefi olaf yng ngogledd Cymru sydd â marchnad arwerthiant o'r fath yng nghanol tref.

Bu'r Wyddgrug yn dref farchnad ar gyfer masnach leol ers y cyfnod canoloesol gyda ffermwyr ac eraill yn dod i'r dref i werthu eu da byw a'u cynnyrch.

Byddai'r anifeiliaid wedi cael eu gwerthu yn wreiddiol ar Stryd Fawr eang y dref, ond oherwydd galwadau masnachwyr y farchnad stryd, a phryderon cynyddol am hylendid, symudodd y farchnad i'r 'Star Croft' - roedd y Star yn dafarn a oedd yn sefyll ar y Groes. Roedd marchnad anifeiliaid hefyd ar Heol Grosvenor.